Datganiad hygyrchedd ar gyfer Apply for Business e-Services
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad, ffontiau a maint ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
- chwyddo mewn hyd at 400% heb i’r testun gwympo oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais, ac eithrio’r map
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- cyrchu’r wefan gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiadau, meintiau sgrin a chyfeiriadau
Mae gan AbilityNet (mae’n agor mewn tab newydd) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau yn hollol hygyrch:
-
mae rhai tudalennau yn y gwasanaeth yn cynnwys defnydd lluosog o’r tag pennawd h1
Os cewch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gallwch gysylltu â ni hefyd i ofyn am ein gwasanaeth digidol â chymorth os hoffech gael help i ddefnyddio’r gwasanaeth.
Os oes angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni:
Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darllen am gost galwadau(mae’n agor mewn tab newydd)
Gallwn ddarparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n F/fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd hefyd.
Ffurflen gysylltu ar-lein
Defnyddiwch ein ffurflen gysylltu i anfon neges atom (mae’n agor mewn tab newydd). Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn 5 niwrnod gwaith.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r modd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (mae’n agor mewn tab newydd).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Statws cydymffurfio
Profwyd y wefan hon yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 (mae’n agor mewn tab newydd), oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod (mae’n agor mewn tab newydd).
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Rydym yn bwriadu cywiro’r gwallau hyn erbyn Awst 2025.
Baich anghymesur
Nid oes unrhyw nodweddion yn y gwasanaeth hwn nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn