Yn ôl

Cwyno am Gofrestrfa Tir EF

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cwyn am Gofrestrfa Tir EF.


Bydd angen cyfeiriad ebost arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Byddwn yn anfon diweddariadau o ran cynnydd ac ymatebion i’ch cwyn i’r ebost hwn. Os nad oes gennych gyfeiriad ebost, gallwch gwyno dros y ffôn neu trwy lythyr.


Cyn ichi ddechrau

Byddwn yn gofyn ichi am unrhyw wybodaeth sy’n ategu’ch cwyn:

  • rhif teitl
  • cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo
  • cyfeirnod Cofrestrfa Tir EF
  • unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth sy’n ymwneud â’ch cwyn

Os ydych yn gwsmer busnes, byddwn yn gofyn am eich cyfeirnod cwsmer hefyd.


Cymorth gyda gwybodaeth ategol

  • Gallwch ddod o hyd i’r rhif teitl ar ddogfennau Cofrestrfa Tir EF, er enghraifft copïau o’r gofrestr teitl, neu lythyr rydym wedi ei anfon atoch.

  • Ein ffordd o adnabod cyfeiriad mae eich cwyn yn ymwneud ag ef yw cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo. Er enghraifft, ‘2 Cae Melyn, Caerdydd, CF4 2YQ’ neu ‘tir i ochr ddwyreiniol Heol Las’.

  • Gelwir cyfeirnod Cofrestrfa Tir EF yn gyfeirnod CTEF, Cyfeirnod Cais CTEF neu ABR hefyd.

  • Cyfeirnod rydych chi’n ei greu ac yn gofyn inni ei ddefnyddio yw eich cyfeirnod cwsmer.